offerynnau STATUdol cymru
2016 Rhif 107 (Cy. 53)
AMAETHYDDIAETH, CYMRU
Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru) 2016
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Yn ddarostyngedig i rai newidiadau ac un ddarpariaeth drosiannol ac arbed, mae’r Gorchymyn hwn yn disodli Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru a Lloegr) 2012 sydd, yn unol ag adran 12(1) o Ddeddf Sector Amaethyddol (Cymru) 2014, yn parhau’n effeithiol o ran gweithwyr amaethyddol hyd nes i Weinidogion Cymru wneud gorchymyn cyflogau amaethyddol newydd.
Mae Rhan 2 o’r Gorchymyn yn darparu bod gweithwyr amaethyddol i gael eu cyflogi o dan y telerau a’r amodau sydd wedi eu nodi yn Rhannau 2 – 5 o’r Gorchymyn (erthygl 3) ac yn pennu’r graddau a’r categorïau gwahanol o weithiwr amaethyddol (erthyglau 5 i 12).
Mae Rhan 3 yn gwneud darpariaeth ynghylch y cyfraddau tâl isaf y mae’n rhaid eu talu i weithwyr amaethyddol (erthygl 13). Mae darpariaeth yn cael ei gwneud ar gyfer lwfans gwrthbwyso llety a all gael ei dynnu oddi ar dâl gweithiwr amaethyddol (erthygl 16). Mae darpariaeth yn cael ei gwneud hefyd ar gyfer lwfans cŵn, lwfans ar alwad, lwfans gwaith nos a grantiau geni a mabwysiadu nad ydynt yn ffurfio rhan o dâl gweithiwr amaethyddol (erthygl 17).
Mae Rhan 4 yn darparu bod gan weithiwr amaethyddol hawl i gael tâl salwch amaethyddol o dan yr amgylchiadau sydd wedi eu pennu (erthyglau 19 i 22). Mae darpariaeth yn cael ei gwneud ynghylch cyfrifo faint o dâl salwch amaethyddol y mae gan weithiwr amaethyddol hawl i’w gael (erthygl 23). Mae taliad tâl salwch statudol i gyfrif tuag at hawl gweithiwr amaethyddol i gael tâl salwch amaethyddol (erthygl 24).
Mae Rhan 5 yn gwneud darpariaeth ynghylch hawl gweithiwr amaethyddol i gael amser i ffwrdd. Mae darpariaeth yn cael ei gwneud ynghylch hawl gweithiwr amaethyddol i gael seibiannau gorffwys (erthygl 29). Mae darpariaeth yn cael ei gwneud hefyd sy’n pennu blwyddyn gwyliau blynyddol y gweithiwr amaethyddol ac ynghylch hawl gweithiwr amaethyddol i gael gwyliau blynyddol a thâl gwyliau ac ynghylch taliad yn lle gwyliau blynyddol (erthyglau 30 i 36). Mae darpariaeth ynghylch hawl gweithiwr amaethyddol i gael absenoldeb â thâl oherwydd profedigaeth yn cael ei gwneud yn erthyglau 39 i 41.
Mae Rhan 6 yn cynnwys darpariaeth arbed.
Mae’r Asesiad Effaith Rheoleiddiol sy’n gymwys i’r Gorchymyn hwn ar gael oddi wrth Lywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ ac ar wefan Llywodraeth Cymru yn www.cymru.gov.uk.
offerynnau STATUdol cymru
2016 Rhif 107 (Cy. 53)
Amaethyddiaeth, cymru
Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru) 2016
Gwnaed 3 Chwefror 2016
Gosodwyd gerbron Cynulliad
Cenedlaethol Cymru 3 Chwefror 2016
Yn dod i rym 26 March 2016
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 3, 4(2) a 17 o Ddeddf Sector Amaethyddol (Cymru) 2014([1]), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.
Yn unol ag adran 4(3) o’r Ddeddf honno, mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â’r personau a’r cyrff hynny y maent o’r farn ei bod yn debyg bod ganddynt fuddiant yn y Gorchymyn.
Cynnwys
RHAN 1: Rhagarweiniol
1. Enwi, cychwyn a chymhwyso
2. Dehongli
RHAN 2: Gweithwyr amaethyddol
3. Telerau ac amodau cyflogaeth
4. Graddau a chategorïau gweithiwr amaethyddol
5. Gradd 2
6. Gradd 3
7. Gradd 4
8. Gradd 5
9. Gradd 6
10. Datblygu Proffesiynol Parhaus
11. Prentisiaid
12. Gweithwyr hyblyg
RHAN 3: Yr isafswm cyflog amaethyddol
13. Cyfraddau tâl isaf
14. Cyfraddau tâl isaf am oramser
15. Cyfraddau tâl isaf am waith allbwn
16. Lwfans gwrthbwyso llety
17. Taliadau nad ydynt yn ffurfio rhan o dâl gweithiwr amaethyddol
18. Costau hyfforddi
RHAN 4: Yr hawl i gael tâl salwch amaethyddol
19. Yr hawl i gael tâl salwch amaethyddol
20. Amodau cymhwyso ar gyfer tâl salwch amaethyddol
21. Cyfnodau absenoldeb salwch
22. Cyfyngiadau ar yr hawl i dâl salwch amaethyddol
23. Pennu swm tâl salwch amaethyddol
24. Tâl salwch amaethyddol i gymryd tâl salwch statudol i ystyriaeth
25. Talu tâl salwch amaethyddol
26. Cyflogaeth yn dod i ben yn ystod absenoldeb salwch
27. Gordalu tâl salwch amaethyddol
28. Iawndal a adenillir yn sgil colli enillion
RHAN 5: Yr hawl i gael amser i ffwrdd
29. Seibiannau gorffwys
30. Y flwyddyn gwyliau blynyddol
31. Swm gwyliau blynyddol gweithwyr amaethyddol a gyflogir drwy gydol y flwyddyn gwyliau
32. Swm gwyliau blynyddol gweithwyr amaethyddol a gyflogir am ran o’r flwyddyn gwyliau
33. Amseru gwyliau blynyddol
34. Tâl gwyliau
35. Gwyliau cyhoeddus a gwyliau banc
36. Taliad yn lle gwyliau blynyddol
37. Talu tâl gwyliau wrth derfynu cyflogaeth
38. Adennill tâl gwyliau
39. Absenoldeb oherwydd profedigaeth
40. Pennu swm absenoldeb oherwydd profedigaeth
41. Swm tâl absenoldeb oherwydd profedigaeth
42. Gwyliau di-dâl
RHAN 6: Darpariaethau Trosiannol ac Arbed
43. Darpariaethau trosiannol ac arbed
ATODLEN 1 – Dyfarniadau a thystysgrifau cymhwysedd gweithwyr Gradd 2
ATODLEN 2 – Dyfarniadau a thystysgrifau cymhwysedd gweithwyr Gradd 3
ATODLEN 3 – Dyfarniadau a thystysgrifau cymhwysedd gweithwyr Gradd 4
ATODLEN 4 – Cyfraddau tâl isaf
ATODLEN 5 – Hawliau gwyliau blynyddol
ATODLEN 6 – Taliad yn lle gwyliau blynyddol
RHAN 1 - Rhagarweiniol
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.—(1)(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cyflogau
Amaethyddol (Cymru) 2016 ac mae’n dod i rym ar 26 Chwefror
2016.
(2) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
Dehongli
2.—(1)(1) Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr “absenoldeb salwch” (“sickness absence”) yw absenoldeb unrhyw weithiwr amaethyddol o’r gwaith oherwydd analluedd yn sgil—
(a) unrhyw salwch a ddioddefir gan y gweithiwr amaethyddol;
(b) salwch neu analluedd a achosir am fod y gweithiwr amaethyddol yn feichiog neu’n fam;
(c) anaf sy’n digwydd i’r gweithiwr amaethyddol yn ei le gwaith;
(d) anaf sy’n digwydd i’r gweithiwr amaethyddol wrth deithio yn ôl ac ymlaen i’w le gwaith;
(e) amser a dreulir gan y gweithiwr amaethyddol yn ymadfer ar ôl llawdriniaeth a achoswyd gan salwch; neu
(f) amser a dreulir gan y gweithiwr amaethyddol yn ymadfer ar ôl llawdriniaeth o ganlyniad i anaf a ddioddefwyd yn ei le gwaith neu anaf a ddioddefwyd wrth deithio yn ôl ac ymlaen i’w le gwaith,
ond nid yw’n cynnwys unrhyw anaf a ddioddefir gan y gweithiwr amaethyddol pan na fo yn ei le gwaith nac unrhyw anaf a ddioddefir pan na fo’r gweithiwr amaethyddol yn teithio yn ôl ac ymlaen i’w le gwaith.
ystyr “amser gweithio” (“working time”) yw unrhyw gyfnod pryd y mae gweithiwr amaethyddol yn gweithio yng ngwasanaeth ei gyflogwr ac yn cyflawni ei weithgareddau neu ei ddyletswyddau yn unol â naill ai ei gontract gwasanaeth neu ei brentisiaeth ac mae’n cynnwys—
(a) unrhyw gyfnod pryd y mae gweithiwr amaethyddol yn derbyn hyfforddiant perthnasol;
(b) unrhyw gyfnod a dreulir gan weithiwr amaethyddol yn teithio at ddibenion ei gyflogaeth ond nad yw’n cynnwys amser a dreulir yn teithio rhwng ei gartref a’i le gwaith;
(c) unrhyw gyfnod y mae gweithiwr amaethyddol yn cael ei rwystro rhag cyflawni gweithgareddau neu ddyletswyddau yn unol â’i gontract gwasanaeth neu ei brentisiaeth oherwydd tywydd drwg; a
(d) unrhyw gyfnod ychwanegol y mae’r cyflogwr a’r gweithiwr amaethyddol yn cytuno ei fod i’w drin fel amser gweithio,
ac mae cyfeiriadau at “gwaith” (“work”) i’w dehongli yn unol â hyn;
ystyr “ar alwad” (“on call”) yw trefniant rhwng y gweithiwr amaethyddol a’i gyflogwr lle mae gweithiwr amaethyddol nad yw yn y gwaith yn cytuno â’i gyflogwr y bydd modd cysylltu ag ef drwy gyfrwng y cytunir arno ac y gall gyrraedd y fan lle y gall fod yn ofynnol iddo weithio o fewn amser y cytunir arno;
ystyr “diwrnodau cymwys” (“qualifying days”) yw diwrnodau pan fyddai’n ofynnol fel rheol i’r gweithiwr amaethyddol fod ar gael i weithio heblaw unrhyw ddiwrnodau pan oedd y gweithiwr amaethyddol—
(a) yn cymryd gwyliau blynyddol;
(b) yn cymryd absenoldeb oherwydd profedigaeth; neu
(c) yn cymryd absenoldeb mamolaeth, absenoldeb tadolaeth neu absenoldeb mabwysiadu statudol;
ystyr “goramser” (“overtime”) yw—
(a) mewn perthynas â gweithiwr amaethyddol, ar wahân i weithiwr hyblyg, a ddechreuodd ei gyflogaeth cyn 1 Hydref 2006, amser nad yw’n oramser gwarantedig y mae’r gweithiwr amaethyddol yn ei weithio—
(i) yn ychwanegol at ddiwrnod gwaith 8 awr;
(ii) yn ychwanegol at yr oriau gwaith y cytunwyd arnynt yn ei gontract gwasanaeth;
(iii) ar ŵyl gyhoeddus;
(iv) ar ddydd Sul; neu
(v) mewn unrhyw gyfnod sy’n cychwyn ar ddydd Sul ac yn parhau hyd y dydd Llun canlynol hyd at yr amser y byddai’r gweithiwr hwnnw yn cychwyn ei ddiwrnod gwaith fel arfer;
(b) mewn perthynas â phob gweithiwr amaethyddol arall, amser nad yw’n oramser gwarantedig y mae’r gweithiwr amaethyddol yn ei weithio—
(i) yn ychwanegol at ddiwrnod gwaith 8 awr (neu, yn achos gweithiwr amaethyddol hyblyg neu weithiwr amaethyddol hyblyg rhan amser, diwrnod gwaith 10 awr);
(ii) yn ychwanegol at yr oriau gwaith y cytunwyd iddynt yn ei gontract gwasanaeth; neu
(iii) ar ŵyl gyhoeddus.
ystyr “goramser gwarantedig” (“guaranteed overtime”)yw goramser y mae’n ofynnol i weithiwr amaethyddol ei weithio o dan naill ai ei gontract gwasanaeth neu ei brentisiaeth ac y mae cyflogwr y gweithiwr amaethyddol yn gwarantu taliad ar ei gyfer, p’un a oes gwaith i’r gweithiwr amaethyddol ei wneud neu beidio;
ystyr “grant geni a mabwysiadu” (“birth and adoption grant”) yw taliad y mae gan weithiwr amaethyddol hawl i’w gael oddi wrth ei gyflogwr pan enir plentyn iddo neu pan fydd yn mabwysiadu plentyn ac mae’n daladwy—
(i) pan fo’r gweithiwr amaethyddol wedi rhoi copi i’w gyflogwr o Dystysgrif Geni’r plentyn neu ei Orchymyn Mabwysiadu (sy’n enwi’r gweithiwr fel rhiant y plentyn neu ei riant mabwysiadol) o fewn 3 mis ar ôl geni neu fabwysiadu’r plentyn; a
(ii) o dan amgylchiadau lle mae’r ddau riant neu’r ddau riant mabwysiadol yn weithwyr amaethyddol gyda’r un cyflogwr, i’r ddau weithiwr amaethyddol;
ystyr “gwaith allbwn” (“output work”) yw gwaith sydd, at ddibenion tâl, yn cael ei fesur yn ôl nifer y darnau a wneir neu a brosesir neu nifer y tasgau a gyflawnir gan weithiwr amaethyddol;
ystyr “gwaith nos” (“night work”) yw gwaith (heblaw oriau goramser) a wneir gan weithiwr amaethyddol rhwng 7 p.m. un noson a 6 a.m. fore trannoeth, ond heb gynnwys y ddwy awr gyntaf o waith y mae gweithiwr amaethyddol yn ei wneud yn y cyfnod hwnnw;
ystyr “llety arall” (“other accommodation”) yw unrhyw lety byw heblaw tŷ—
(a) sy’n addas i bobl fyw ynddo;
(b) sy’n ddiogel ac yn ddiddos;
(c) sy’n darparu gwely i’w ddefnyddio gan bob gweithiwr amaethyddol unigol yn unig; a
(d) sy’n darparu dŵr yfed glân, cyfleusterau glanweithdra addas a digonol a chyfleusterau ymolchi i weithwyr amaethyddol yn unol â rheoliadau 20 i 22 o Reoliadau Gweithleoedd (Iechyd, Diogelwch a Lles) 1992([2]) fel pe bai’r llety’n weithle yr oedd rheoliadau 20 i 22 o’r Rheoliadau hynny’n gymwys iddo;
mae i “oedran ysgol gorfodol” yr ystyr a roddir i “compulsory school age” yn adran 8 o Ddeddf Addysg 1996([3]);
mae “oriau” (“hours”) yn cynnwys ffracsiwn o awr;
ystyr “oriau sylfaenol” (“basic hours”) yw 39 awr o waith yr wythnos, heb gynnwys goramser, a weithir yn unol â naill ai contract gwasanaeth neu brentisiaeth gweithiwr amaethyddol;
ystyr “teithio” (“travelling”) yw siwrnai drwy gyfrwng dull teithio neu siwrnai ar droed yn cynnwys—
(a) aros wrth fan ymadael i gychwyn siwrnai drwy gyfrwng dull teithio;
(b) aros wrth fan ymadael i siwrnai ailgychwyn naill ai drwy gyfrwng yr un dull teithio neu drwy gyfrwng un arall, ac eithrio unrhyw amser a dreulir gan y gweithiwr amaethyddol yn cymryd seibiant gorffwys; ac
(c) aros ar ddiwedd siwrnai i gyflawni dyletswyddau, neu i dderbyn hyfforddiant, ac eithrio unrhyw amser a dreulir gan y gweithiwr amaethyddol yn cymryd seibiant gorffwys;
ystyr “tŷ” (“house”) yw tŷ annedd cyfan neu lety hunangynhwysol y mae’n ofynnol i’r gweithiwr amaethyddol fyw ynddo yn rhinwedd contract gwasanaeth y gweithiwr amaethyddol er mwyn cyflawni ei ddyletswyddau mewn modd priodol neu well ac mae’n cynnwys unrhyw ardd o fewn cwrtil y tŷ annedd neu’r llety hwnnw.
(2) Yn yr erthygl hon mae’r cyfeiriad at weithwyr amaethyddol a ddechreuodd eu cyflogaeth cyn 1 Hydref 2006 yn cynnwys gweithwyr amaethyddol—
(a) y mae telerau eu contract wedi bod yn destun unrhyw amrywiad ers hynny; neu
(b) sydd wedi eu cyflogi gan gyflogwr newydd ers hynny yn unol â Rheoliadau Trosglwyddo Ymgymeriadau (Diogelu Cyflogaeth) 1981([4]).
(3) Mae cyfeiriadau yn y Gorchymyn hwn at gyfnod o gyflogaeth ddi-dor i’w dehongli fel cyfnod o gyflogaeth ddi-dor a gyfrifir yn unol ag adrannau 210 i 219 o Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 1996([5]).
RHAN 2 – Gweithwyr amaethyddol
Telerau ac amodau cyflogaeth
3. Mae cyflogaeth gweithiwr amaethyddol yn ddarostyngedig i’r telerau a’r amodau a nodir yn y Rhan hon ac yn Rhannau 3, 4 a 5 o’r Gorchymyn hwn.
Graddau a chategorïau gweithiwr amaethyddol
4. Rhaid i weithiwr amaethyddol gael ei gyflogi fel gweithiwr ar un o’r Graddau a bennir yn erthyglau 5 - 9 neu 10(1) neu fel prentis yn unol â’r darpariaethau yn erthygl 11.
Gradd 2
5. Rhaid i weithiwr amaethyddol—
(a) sy’n darparu tystiolaeth ddogfennol i gyflogwr fod ganddo —
(i) un o’r dyfarniadau neu’r tystysgrifau cymhwysedd a restrir yn y tablau yn Atodlen 1;
(ii) un Cymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol sy’n berthnasol i’w waith; neu
(iii) cymhwyster cyfatebol; neu
(b) y mae’n ofynnol iddo—
(i) gweithio heb oruchwyliaeth;
(ii) gweithio gydag anifeiliaid;
(iii) gweithio â pheiriannau pŵer; neu
(iv) gyrru tractor amaethyddol
gael ei gyflogi fel gweithiwr ar Radd 2.
Gradd 3
6.—(1)(1) Rhaid i weithiwr amaethyddol sydd wedi ei gyflogi mewn
amaethyddiaeth am gyfnod agregedig o 2 flynedd o leiaf yn ystod y 5
mlynedd blaenorol ac—
(a) sy’n darparu tystiolaeth ddogfennol i gyflogwr fod ganddo —
(i) un o’r dyfarniadau neu’r tystysgrifau cymhwysedd a restrir yn y tablau yn Atodlen 2;
(ii) un Cymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol sy’n berthnasol i’w waith; neu
(iii) cymhwyster cyfatebol; neu
(b) sydd wedi ei ddynodi’n arweinydd tîm,
gael ei gyflogi fel gweithiwr ar Radd 3.
(2) At ddibenion yr erthygl hon, mae “arweinydd tîm” yn gyfrifol am arwain tîm o weithwyr amaethyddol ac am fonitro sut mae’r tîm yn cydymffurfio â chyfarwyddiadau a roddir gan neu ar ran eu cyflogwr ond nid yw’n gyfrifol am faterion disgyblu.
Gradd 4
7. Rhaid i weithiwr amaethyddol—
(a) sy’n darparu tystiolaeth ddogfennol i gyflogwr fod ganddo gyfanswm o 8 cymhwyster sydd naill ai—
(i) yn ddyfarniadau neu dystysgrifau cymhwysedd a restrir yn y tablau yn Atodlen 1;
(ii) yn Gymwysterau Galwedigaethol Cenedlaethol sy’n berthnasol i’w waith; neu
(iii) yn gymwysterau cyfatebol; neu
(b) sy’n darparu tystiolaeth ddogfennol i gyflogwr fod ganddo 1 o’r dyfarniadau neu dystysgrifau cymhwysedd a restrir yn y tablau yn Atodlen 3 neu gymhwyster cyfatebol; ac
(c) sydd naill ai—
(i) wedi ei gyflogi mewn amaethyddiaeth am gyfnod agregedig o 2 flynedd o leiaf yn ystod y 5 mlynedd diwethaf; neu
(ii) wedi ei gyflogi’n ddi-dor am gyfnod o 12 mis neu ragor o leiaf gan yr un cyflogwr ers ennill y cymwysterau y cyfeirir atynt ym mharagraffau (a) a (b),
gael ei gyflogi fel gweithiwr ar Radd 4.
Gradd 5
8. Rhaid i weithiwr amaethyddol y mae’n ofynnol iddo ysgwyddo cyfrifoldeb o ddydd i ddydd—
(a) dros oruchwylio’r gwaith a gyflawnir ar ddaliad y cyflogwr;
(b) dros roi penderfyniadau rheoli ar waith; neu
(c) dros reoli staff,
gael ei gyflogi fel gweithiwr ar Radd 5.
Gradd 6
9. Rhaid i weithiwr amaethyddol y mae’n ofynnol iddo ysgwyddo cyfrifioldeb rheoli—
(a) dros ddaliad cyfan y cyflogwr; neu
(b) dros ran o’r daliad a redir fel gweithrediad neu fusnes ar wahân; neu
(c) dros hurio a rheoli staff,
gael ei gyflogi fel gweithiwr ar Radd 6.
Datblygu Proffesiynol Parhaus
10.—(1)(1) Rhaid i weithiwr amaethyddol na ellir ei gyflogi ar un o
Raddau 2 i 6 yn unol â’r ddarpariaeth yn erthyglau 5 i 9
o’r Gorchymyn hwn ac nad yw’n brentis yn unol ag
erthygl 11 gael ei gyflogi fel gweithiwr ar Radd 1.
(2) Mae prentis sydd yn nhrydedd flwyddyn ac unrhyw flwyddyn olynol ei brentisiaeth i fod yn ddarostyngedig i’r cyfraddau tâl isaf ac unrhyw delerau ac amodau eraill yn y Gorchymyn hwn sy’n gymwys i weithwyr amaethyddol a gyflogir ar Radd 2.
(3) Rhaid i weithiwr amaethyddol—
(a) cadw tystiolaeth ddogfennol o gymwysterau a phrofiad a enillwyd ganddo sy’n berthnasol i’w gyflogaeth; a
(b) rhoi gwybod i’w gyflogwr os yw wedi ennill cymwysterau a phrofiad sy’n ei alluogi i gael ei gyflogi ar Radd wahanol.
Prentisiaid
11.—(1)(1) Mae gweithiwr amaethyddol yn brentis sydd wedi ei
gyflogi o dan brentisiaeth—
(a) os yw’n cael ei gyflogi o dan naill ai contract prentisiaeth neu gytundeb prentisiaeth o fewn ystyr adran 32 o Ddeddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009([6]), neu’n cael ei drin fel pe bai wedi ei gyflogi o dan gontract prentisiaeth; a
(b) os yw o fewn y 12 mis cyntaf ar ôl dechrau’r gyflogaeth honno yn llai na 19 oed.
(2) Rhaid i weithiwr amaethyddol gael ei drin fel pe bai wedi ei gyflogi o dan gontract prentisiaeth os yw wedi ei gymryd ymlaen yng Nghymru o dan drefniadau Llywodraeth o’r enw Prentisiaethau Sylfaen, Prentisiaethau neu Brentisiaethau Uwch.
(3) Yn yr erthygl hon ystyr “trefniadau Llywodraeth” yw trefniadau a wnaed o dan adran 2 o Ddeddf Cyflogaeth a Hyfforddiant 1973([7]) neu o dan adran 17B o Ddeddf Ceiswyr Gwaith 1995([8]).
Gweithwyr hyblyg
12.—(1) Mae gweithiwr amaethyddol yn weithiwr hyblyg amser llawn os yw wedi ei gyflogi fel gweithiwr ar Raddau 1 i 6 yn unol ag erthygl 5 i 9 neu 10(1) o’r Gorchymyn hwn a’i fod wedi gwneud cytundeb ysgrifenedig sy’n para am o leiaf blwyddyn ac—
(a) sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r gweithiwr amaethyddol weithio oriau sylfaenol naill ai’n wythnosol neu yn ystod cyfnod o 2 neu o 3 wythnos, a’r oriau hynny i’w gweithio dros 4, 5, neu 6 diwrnod yr wythnos;
(b) nad yw’n ei gwneud yn ofynnol i’r gweithiwr amaethyddol weithio mwy na 10 o oriau sylfaenol ar unrhyw 1 diwrnod; ac
(c) sy’n sicrhau, pan fo’n ofynnol i weithiwr amaethyddol weithio ar ddydd Sul, na fydd yn ofynnol iddo weithio ar un diwrnod gwaith yn ystod yr wythnos ganlynol.
(2) Mae gweithiwr amaethyddol yn weithiwr hyblyg rhan-amser os yw wedi ei gyflogi fel gweithiwr ar Raddau 1 i 6 yn unol ag erthygl 5 i 9 neu 10(1) o’r Gorchymyn hwn ac os yw wedi gwneud cytundeb ysgrifenedig sy’n para am flwyddyn o leiaf ac—
(a) sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r gweithiwr amaethyddol weithio am lai na’r oriau sylfaenol bob wythnos, a’r oriau hynny i’w gweithio dros 6 diwrnod mewn unrhyw wythnos; a
(b) sydd naill ai’n ei gwneud yn ofynnol i’r gweithiwr weithio ar ddyddiau Sul neu weithio rhwng 8 a 10 o oriau sylfaenol ar 1 diwrnod o leiaf mewn unrhyw wythnos.
(3) Rhaid caniatáu i’r gweithiwr amaethyddol gael ei gynrychioli gan undeb llafur mewn unrhyw drafodaethau wrth i’r cytundeb gweithio hyblyg gael ei baratoi.
RHAN 3 - Yr isafswm cyflog amaethyddol
Cyfraddau tâl isaf
13.—(1) Yn ddarostyngedig i weithrediad adran 1 o Ddeddf Isafswm Cyflog Cenedlaethol 1998([9]), rhaid i weithwyr amaethyddol gael eu talu gan eu cyflogwr o ran eu gwaith yn ôl cyfradd nad yw’n llai na’r isafswm cyflog amaethyddol.
(2) Yr isafswm cyflog amaethyddol yw’r gyfradd isaf fesul awr a bennir yn y Tabl yn Atodlen 4 fel y gyfradd sy’n gymwys i bob gradd o weithiwr amaethyddol, i brentisiaid ac i weithwyr hyblyg.
Cyfraddau tâl isaf am oramser
14. Rhaid i weithwyr amaethyddol gael eu talu gan eu cyflogwr o ran goramser a weithir yn ôl cyfradd nad yw’n llai nag 1.5 gwaith yr isafswm cyflog amaethyddol a bennir yn erthygl 13 ac Atodlen 4 sy’n gymwys i’w radd neu i’w gategori.
Cyfraddau tâl isaf am waith allbwn
15. Rhaid i weithwyr amaethyddol gael eu talu gan eu cyflogwr o ran gwaith allbwn yn ôl cyfradd nad yw’n llai na’r isafswm cyflog amaethyddol a bennir yn erthygl 13 ac Atodlen 4 sy’n gymwys i’w radd neu i’w gategori.
Lwfans gwrthbwyso llety
16.—(1)(1) Pan fo cyflogwr, mewn unrhyw wythnos, yn darparu tŷ
i weithiwr amaethyddol am y cyfan o’r wythnos honno, caiff y
cyflogwr, yn ddarostyngedig i baragraff (2), dynnu’r swm o
£1.50 oddi ar isafswm cyflog y gweithiwr amaethyddol
sy’n daladwy o dan erthygl 13 o’r Gorchymyn hwn ar
gyfer yr wythnos honno.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) a (4), pan fo cyflogwr, mewn unrhyw wythnos, yn darparu llety arall i weithiwr amaethyddol, caiff y cyflogwr dynnu’r swm o £4.82 oddi ar isafswm cyflog y gweithiwr amaethyddol sy’n daladwy o dan erthygl 13 o’r Gorchymyn hwn am bob diwrnod yn yr wythnos y darperir y llety arall i’r gweithiwr.
(3) Dim ond pan fo’r gweithiwr amaethyddol wedi gweithio o leiaf 15 awr yn ystod yr wythnos honno y caniateir i’r didyniad ym mharagraff (2) gael ei wneud.
(4) Rhaid i unrhyw amser yn ystod yr wythnos honno pan fo’r gweithiwr amaethyddol ar wyliau blynyddol neu absenoldeb oherwydd profedigaeth gyfrif tuag at y 15 awr hynny.
Taliadau nad ydynt yn ffurfio rhan o dâl gweithiwr amaethyddol
17. Nid yw’r lwfansau a’r taliadau a ganlyn yn ffurfio rhan o dâl gweithiwr amaethyddol—
(a) lwfans cŵn o £7.63 y ci i’w dalu’n wythnosol pan fo’i gyflogwr yn ei gwneud yn ofynnol i weithiwr amaethyddol gadw un neu ragor o gŵn;
(b) lwfans ar alwad o swm sy’n cyfateb i ddwy waith y gyfradd goramser fesul awr a nodir yn erthygl 14 o’r Gorchymyn hwn ar gyfer pob awr mae’r gweithiwr amaethyddol ar alwad;
(c) lwfans gwaith nos o £1.44 am bob awr o waith nos; a
(d) grant geni a mabwysiadu o £60 am bob plentyn.
Costau hyfforddi
18.—(1)(1) Pan fo gweithiwr amaethyddol yn mynd ar gwrs hyfforddi
gyda chytundeb ei gyflogwr ymlaen llaw, rhaid i’r cyflogwr
dalu—
(a) unrhyw ffioedd am y cwrs; a
(b) unrhyw gostau teithio a llety a ysgwyddir gan y gweithiwr amaethyddol wrth fynd ar y cwrs.
(2) Bernir bod gweithiwr amaethyddol sydd wedi ei gyflogi’n ddi-dor ar Radd 1 gan yr un cyflogwr am ddim llai na 30 wythnos wedi cael cymeradwyaeth ei gyflogwr i ymgymryd â hyfforddiant gyda golwg ar sicrhau’r cymwysterau angenrheidiol y mae gofyn i weithiwr Radd 2 feddu arnynt.
(3) Y cyflogwr sydd i dalu am unrhyw hyfforddiant y mae gweithiwr amaethyddol yn ymgymryd ag ef yn unol â pharagraff (2).
RHAN 4 – Yr hawl i gael tâl salwch amaethyddol
Yr hawl i gael tâl salwch amaethyddol
19. Yn ddarostyngedig i’r darpariaethau yn y Rhan hon, mae gan weithiwr amaethyddol hawl i gael tâl salwch amaethyddol gan ei gyflogwr mewn perthynas â’i absenoldeb salwch.
Amodau cymhwyso ar gyfer tâl salwch amaethyddol
20. Mae gweithiwr amaethyddol yn cymhwyso ar gyfer tâl salwch amaethyddol o dan y Gorchymyn hwn ar yr amod bod y gweithiwr amaethyddol—
(a) wedi cael ei gyflogi’n barhaus gan ei gyflogwr am gyfnod o 52 o wythnosau o leiaf cyn yr absenoldeb salwch;
(b) wedi hysbysu ei gyflogwr am yr absenoldeb salwch mewn ffordd a gytunwyd yn flaenorol gyda’i gyflogwr neu, yn niffyg unrhyw gytundeb o’r fath, drwy unrhyw ddull rhesymol;
(c) mewn amgylchiadau pan fo’r absenoldeb salwch wedi parhau am gyfnod o 8 diwrnod yn olynol neu ragor, wedi darparu tystysgrif i’w gyflogwr gan ymarferwr meddygol cofrestredig sy’n datgelu’r diagnosis ynghylch cyflwr meddygol y gweithiwr ac sy’n datgan mai’r cyflwr sydd wedi achosi absenoldeb salwch y gweithiwr amaethyddol.
Cyfnodau absenoldeb salwch
21. Rhaid i unrhyw 2 gyfnod o salwch sydd â chyfnod o ddim mwy na 14 diwrnod rhyngddynt gael eu trin fel un cyfnod o absenoldeb salwch.
Cyfyngiadau ar yr hawl i dâl salwch amaethyddol
22.—(1)(1) Ni fydd tâl salwch amaethyddol yn daladwy am y 3
diwrnod cyntaf o absenoldeb salwch o dan amgylchiadau pan fo hyd yr
absenoldeb salwch yn llai na 14 diwrnod.
(2) Yn ystod pob cyfnod hawl, uchafswm nifer yr wythnosau y mae gan weithiwr amaethyddol hawl i gael tâl salwch amaethyddol ar eu cyfer yw—
(a) 13 wythnos pan fo’r gweithiwr amaethyddol wedi ei gyflogi gan yr un cyflogwr am o leiaf 12 mis ond heb fod yn fwy na 24 mis;
(b) 16 wythnos pan fo’r gweithiwr amaethyddol wedi ei gyflogi gan yr un cyflogwr am o leiaf 24 mis ond heb fod yn fwy na 36 mis;
(c) 19 wythnos pan fo’r gweithiwr amaethyddol wedi ei gyflogi gan yr un cyflogwr am o leiaf 36 mis ond heb fod yn fwy na 48 mis;
(d) 22 wythnos pan fo’r gweithiwr amaethyddol wedi ei gyflogi gan yr un cyflogwr am o leiaf 48 mis ond heb fod yn fwy na 59 mis;
(e) 26 wythnos pan fo’r gweithiwr amaethyddol wedi ei gyflogi gan yr un cyflogwr am 59 mis neu fwy.
(3) Pan fo gweithiwr amaethyddol yn gweithio oriau sylfaenol neu unrhyw oramser gwarantedig, pan fo hynny’n berthnasol, ar nifer penodedig o ddiwrnodau bob wythnos, cyfrifir uchafswm nifer y diwrnodau o dâl salwch amaethyddol y mae gan y gweithiwr amaethyddol hawl i’w cael drwy luosi uchafswm nifer yr wythnosau sy’n berthnasol i’r gweithiwr amaethyddol â nifer y diwrnodau cymwys a weithir bob wythnos.
(4) Pan fo gweithiwr amaethyddol yn gweithio oriau sylfaenol neu unrhyw oramser gwarantedig, pan fo hynny’n berthnasol, ar nifer amrywiol o ddyddiau bob wythnos, cyfrifir uchafswm nifer y diwrnodau o dâl salwch amaethyddol y mae gan y gweithiwr amaethyddol hawl i’w cael drwy luosi uchafswm nifer yr wythnosau sy’n berthnasol i’r gweithiwr hwnnw â nifer y diwrnodau perthnasol.
(5) Cyfrifir nifer y diwrnodau perthnasol drwy rannu nifer y diwrnodau cymwys a weithiwyd yn ystod cyfnod o 12 mis yn arwain at gyfnod yr absenoldeb salwch â 52.
(6) Mae uchafswm hawl
gweithiwr amaethyddol i gael tâl salwch amaethyddol yn gymwys
pa faint bynnag o gyfnodau o absenoldeb salwch a geir yn ystod
unrhyw gyfnod hawl;
(7) Yn ddarostyngedig i
baragraff (8), yn yr erthygl hon, “cyfnod hawl” yw
cyfnod sy’n dechrau â chychwyn absenoldeb salwch ac
sy’n dod i ben 12 mis yn ddiweddarach;
(8) Os yw’r gweithiwr amaethyddol yn cael cyfnod o absenoldeb salwch sy’n dechrau unrhyw bryd yn ystod y cyfnod hawl a ddisgrifir ym mharagraff (7) ond sy’n parhau tu hwnt i’r cyfnod hawl hwnnw, rhaid estyn y cyfnod hawl fel y bo’n dod i ben â pha un bynnag o’r canlynol sy’n digwydd gyntaf—
(a) y diwrnod y mae absenoldeb salwch y gweithiwr amaethyddol yn dod i ben ac y mae’r gweithiwr amaethyddol yn dychwelyd i’r gwaith; neu
(b) y diwrnod y mae’r gweithiwr amaethyddol yn cyrraedd uchafswm yr hawl i gael tâl salwch amaethyddol sy’n gymwys i’r cyfnod o 12 mis y cyfeirir ato ym mharagraff (6) (pe na bai hwnnw wedi ei estyn).
Pennu swm tâl salwch amaethyddol
23.—(1)(1) Mae tâl salwch amaethyddol yn daladwy yn ôl
cyfradd sy’n cyfateb i’r gyfradd tâl isaf fesul
awr a ragnodir yn erthygl 13 ac Atodlen 4 o’r Gorchymyn hwn
fel y gyfradd sy’n gymwys i’r radd honno neu’r
categori hwnnw o weithiwr amaethyddol.
(2) Pennir swm y tâl salwch amaethyddol sy’n daladwy i weithiwr amaethyddol drwy gyfrifo nifer yr oriau contract dyddiol a fyddai wedi cael eu gweithio yn ystod cyfnod o absenoldeb salwch.
(3) Pennir nifer yr oriau contract dyddiol—
(a) o dan amgylchiadau lle mae gweithiwr amaethyddol yn gweithio nifer penodedig o oriau bob wythnos dwy rannu cyfanswm nifer yr oriau a weithiwyd yn ystod unrhyw wythnos â nifer y diwrnodau a weithiwyd yn yr wythnos honno;
(b) o dan amgylchiadau lle mae gweithiwr amaethyddol yn gweithio nifer amrywiol o oriau bob wythnos, drwy ddefnyddio’r fformwla
QH ÷ 8
DWEW
lle —
QH yw cyfanswm nifer yr oriau cymwys yn y cyfnod, a
DWEW yw nifer y diwrnodau a weithiwyd bob wythnos gan y gweithiwr amaethyddol o’u cymryd ar gyfartaledd yn ystod cyfnod o 8 wythnos yn union cyn i’r absenoldeb salwch gychwyn.
(4) Yn yr erthygl hon “oriau cymwys” yw oriau—
(a) pan fu’r gweithiwr amaethyddol yn gweithio oriau sylfaenol neu oramser gwarantedig;
(b) pan gymerodd y gweithiwr amaethyddol wyliau blynyddol neu absenoldeb oherwydd profedigaeth;
(c) pan gafodd y gweithiwr amaethyddol absenoldeb salwch a oedd yn gymwys ar gyfer tâl salwch amaethyddol o dan y gorchymyn hwn; neu
(d) pan gafodd y gweithiwr amaethyddol absenoldeb salwch nad oedd yn gymwys ar gyfer tâl salwch amaethyddol o dan y gorchymyn hwn; a
“diwrnodau
cymwys” yw unrhyw ddiwrnodau o fewn y cyfnod y cafwyd ynddynt
oriau cymwys mewn perthynas â’r gweithiwr
amaethyddol.
(5) At ddibenion y cyfrifiadau yn yr erthygl hon, os cyflogwyd gweithiwr amaethyddol gan ei gyflogwr am lai na wyth wythnos, rhaid ystyried yr oriau cymwys a’r diwrnodau cymwys yn ystod y gwir nifer o wythnosau y cyflogwyd y gweithiwr amaethyddol gan ei gyflogwr.
Tâl salwch amaethyddol i gymryd tâl salwch statudol i ystyriaeth
24. Caniateir i swm sy’n hafal i unrhyw daliad tâl salwch statudol a wneir yn unol â Rhan XI o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992([10]) o ran cyfnod absenoldeb salwch gweithiwr amaethyddol gael ei dynnu oddi ar dâl salwch amaethyddol y gweithiwr hwnnw.
Talu tâl salwch amaethyddol
25. Rhaid i dâl salwch amaethyddol gael ei dalu i’r gweithiwr amaethyddol ar ei ddiwrnod cyflog arferol yn unol â naill ai ei gontract gwasanaeth neu ei brentisiaeth.
Cyflogaeth yn dod i ben yn ystod absenoldeb salwch
26.—(1)(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), os terfynir naill ai
contract gwasanaeth gweithiwr amaethyddol neu ei brentisiaeth yn
ystod cyfnod o absenoldeb salwch neu os rhoddir hysbysiad i’r
gweithiwr amaethyddol fod naill ai ei gontract gwasanaeth neu ei
brentisiaeth i gael eu terfynu, mae unrhyw hawl sydd gan y
gweithiwr amaethyddol i gael tâl salwch amaethyddol yn parhau
ar ôl i’r contract hwnnw ddod i ben fel pe bai’r
gweithiwr amaethyddol yn dal yn cael ei gyflogi gan ei gyflogwr,
hyd nes i un o’r canlynol ddigwydd—
(a) bod absenoldeb salwch y gweithiwr amaethyddol yn dod i ben;
(b) bod y gweithiwr amaethyddol yn dechrau gweithio i gyflogwr arall; neu
(c) bod uchafswm yr hawl i gael tâl salwch amaethyddol yn unol ag erthygl 23 yn cael ei ddihysbyddu.
(2) Nid oes gan weithiwr amaethyddol y terfynwyd ei gontract hawl i gael unrhyw dâl salwch amaethyddol ar ôl diwedd ei gyflogaeth yn unol â pharagraff (1) os rhoddwyd hysbysiad i’r gweithiwr amaethyddol fod ei gyflogwr yn bwriadu terfynu ei gontract gwasanaeth neu ei brentisiaeth cyn i’r cyfnod o absenoldeb salwch gychwyn.
Gordalu tâl salwch amaethyddol
27.—(1)(1) Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau paragraff (2), os
caiff gweithiwr amaethyddol sydd â hawl i gael tâl salwch
amaethyddol o dan y Rhan hon daliad am fwy o dâl salwch
amaethyddol na’i hawl, gall ei gyflogwr adennill gordaliad y
tâl salwch amaethyddol hwnnw drwy ei dynnu oddi ar gyflog y
gweithiwr amaethyddol hwnnw.
(2) Os tynnir gordaliad tâl salwch amaethyddol o dan y Gorchymyn hwn fel y’i crybwyllir ym mharagraff (1), rhaid i’r cyflogwr beidio â thynnu mwy nag 20% o gyflog gros y gweithiwr amaethyddol oni bai bod hysbysiad wedi ei roi i derfynu’r gyflogaeth neu fod y gyflogaeth eisoes wedi ei therfynu pryd y caniateir i fwy nag 20% o gyflog gros y gweithiwr amaethyddol gael ei dynnu gan y cyflogwr oddi ar daliad cyflog olaf y gweithiwr.
Iawndal a adenillir yn sgil colli enillion
28.—(1)(1) Mae’r erthygl hon yn gymwys i weithiwr amaethyddol
y mae ei hawl i gael tâl salwch amaethyddol yn codi oherwydd
gweithred neu anwaith person heblaw ei gyflogwr ac mae’r
iawndal yn cael ei adennill gan y gweithiwr o ran colled enillion a
ddioddefir yn ystod y cyfnod y cafodd y gweithiwr amaethyddol
dâl salwch amaethyddol gan ei gyflogwr ar ei gyfer.
(2) Pan fo paragraff (1) yn gymwys—
(a) rhaid i’r gweithiwr amaethyddol roi gwybod ar unwaith i’w gyflogwr am yr holl amgylchiadau perthnasol ac am unrhyw hawliad ac am unrhyw iawndal a adenillwyd o dan unrhyw gyfaddawd, setliad neu ddyfarniad;
(b) rhaid i’r holl dâl salwch amaethyddol a dalwyd gan y cyflogwr i’r gweithiwr amaethyddol hwnnw o ran yr absenoldeb salwch yr adenillir iawndal am golli enillion ar ei gyfer fod yn gyfystyr â benthyciad i’r gweithiwr; ac
(c) rhaid i’r gweithiwr amaethyddol ad-dalu i’w gyflogwr swm nad yw’n fwy na’r lleiaf o’r canlynol—
(i) swm yr iawndal a adenillwyd am golli enillion yn y cyfnod y talwyd tâl salwch amaethyddol ar ei gyfer; a
(ii) y symiau a roddwyd i’r gweithiwr amaethyddol gan ei gyflogwr o dan y Rhan hon ar ffurf tâl salwch amaethyddol.
RHAN 5 – Yr hawl i gael amser i ffwrdd
Seibiannau gorffwys
29.—(1)(1) Mae gan weithiwr amaethyddol sy’n 18 oed
neu’n hŷn ac sydd â’i amser gweithio dyddiol
yn fwy na 5 awr a hanner hawl i gael seibiant gorffwys.
(2) Mae’r seibiant gorffwys y darperir ar ei gyfer ym mharagraff (1) yn gyfnod di-dor o ddim llai na 30 munud ac mae gan y gweithiwr amaethyddol hawl i’w dreulio i ffwrdd o’i weithfan (os oes ganddo un) neu ei le gwaith arall.
(3) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), nid yw’r darpariaethau ynglŷn â seibiannau gorffwys a bennir ym mharagraffau (1) a (2) yn gymwys i weithiwr amaethyddol—
(a) pan nad yw cyfnod ei amser gweithio yn cael ei fesur neu ei bennu ymlaen llaw oherwydd nodweddion penodol y gweithgaredd y mae’r gweithiwr amaethyddol yn ei gyflawni;
(b) pan fo gweithgareddau’r gweithiwr amaethyddol yn golygu bod angen parhad mewn gwasanaeth neu mewn cynhyrchu;
(c) pan geir ymchwydd gweithgarwch rhagweladwy;
(d) pan effeithir ar weithgareddau’r gweithiwr amaethyddol—
(i) gan ddigwyddiad oherwydd amgylchiadau anarferol nad ydynt yn rhagweladwy, y tu hwnt i reolaeth ei gyflogwr;
(ii) gan ddigwyddiadau eithriadol, nad oedd modd osgoi eu canlyniadau er i’r cyflogwr arfer pob gofal dyladwy; neu
(iii) gan ddamwain neu’r risg bod damwain ar fin digwydd; neu
(e) pan fo’r cyflogwr a’r gweithiwr amaethyddol yn cytuno i addasu paragraffau (1) a (2) neu i’w hatal rhag bod yn gymwys yn y modd ac i’r graddau a ganiateir gan neu o dan Reoliadau Amser Gwaith 1998([11]).
(4) Pan fo paragraff (3) yn gymwys a bod ei gyflogwr yn ei gwneud yn ofynnol i’r gweithiwr amaethyddol weithio yn unol â hynny yn ystod cyfnod a fyddai fel arall yn seibiant gorffwys—
(a) rhaid i’r cyflogwr, oni bai bod is-baragraff (b) yn gymwys, ganiatáu i’r gweithiwr amaethyddol gymryd cyfnod cyfatebol o seibiant yn ei le; a
(b) mewn achosion eithriadol pan nad yw, am resymau gwrthrychol, yn bosibl caniatáu cyfnod gorffwys o’r fath, rhaid i gyflogwr y gweithiwr amaethyddol gynnig iddo unrhyw amddiffyniad sy’n briodol i warchod iechyd a diogelwch y gweithiwr amaethyddol.
Y flwyddyn gwyliau blynyddol
30. Y flwyddyn gwyliau blynyddol i bob gweithiwr amaethyddol yw’r cyfnod o 12 mis sy’n dechrau ar 1 Hydref ac sy’n dod i ben ar 30 Medi.
Swm gwyliau blynyddol gweithwyr amaethyddol a gyflogir drwy gydol y flwyddyn gwyliau
31.—(1)(1) Mae gan weithiwr amaethyddol a gyflogir gan yr un
cyflogwr drwy gydol y flwyddyn gwyliau blynyddol hawl i gael y swm
gwyliau blynyddol a ragnodir yn y Tabl yn Atodlen 5.
(2) Pan fo gweithiwr amaethyddol yn gweithio ei oriau sylfaenol ac unrhyw oramser gwarantedig, pan fo hynny’n berthnasol, ar nifer penodedig o ddiwrnodau cymwys bob wythnos, nifer y diwrnodau a weithir bob wythnos at ddibenion y Tabl yn Atodlen 5 yw’r nifer penodedig hwnnw o ddiwrnodau.
(3) Pan fo gweithiwr amaethyddol yn gweithio ei oriau sylfaenol ac unrhyw oramser gwarantedig, pan fo hynny’n berthnasol, ar nifer amrywiol o ddiwrnodau bob wythnos, mae nifer y diwrnodau a weithiwyd bob wythnos at ddibenion y Tabl yn Atodlen 5 i’w gymryd fel cyfartaledd y nifer o ddiwrnodau cymwys a weithiwyd bob wythnos yn ystod y cyfnod yn cychwyn ar ddyddiad dechrau’r flwyddyn gwyliau blynyddol ac yn dod i ben ar y diwrnod cyn i wyliau blynyddol y gweithiwr amaethyddol gychwyn.
Swm gwyliau blynyddol gweithwyr amaethyddol a gyflogir am ran o’r flwyddyn gwyliau
32.—(1)(1) Mae gan weithiwr amaethyddol a gyflogir gan yr un
cyflogwr am ran o’r flwyddyn gwyliau blynyddol hawl i gronni
gwyliau blynyddol yn ôl cyfradd o 1/52 o’r hawl i gael
gwyliau blynyddol a bennir yn y Tabl yn Atodlen 5 am bob wythnos
orffenedig o wasanaeth gyda’r un cyflogwr.
(2) Pan fo swm y gwyliau blynyddol a gronnwyd mewn achos penodol yn cynnwys ffracsiwn o ddiwrnod heblaw hanner diwrnod, mae’r ffracsiwn hwnnw—
(a) i’w dalgrynnu i lawr i’r diwrnod cyfan nesaf os yw’n llai na hanner diwrnod; a
(b) i’w dalgrynnu i fyny i’r diwrnod cyfan nesaf os yw’n fwy na hanner diwrnod.
Amseru gwyliau blynyddol
33.—(1)(1) Caiff gweithiwr amaethyddol gymryd gwyliau blynyddol y
mae ganddo hawl i’w cymryd o dan y Gorchymyn hwn unrhyw bryd
o fewn y flwyddyn gwyliau blynyddol yn ddarostyngedig i
gymeradwyaeth ei gyflogwr.
(2) Nid oes gan weithiwr amaethyddol hawl i gario unrhyw hawl gwyliau blynyddol nas cymerwyd ymlaen o’r naill flwyddyn gwyliau i’r flwyddyn gwyliau nesaf heb gymeradwyaeth ei gyflogwr.
(3) Pan fo cyflogwr wedi cytuno y caiff gweithiwr amaethyddol gario unrhyw hawl gwyliau blynyddol nas defnyddiwyd ymlaen, dim ond yn ystod y flwyddyn gwyliau y mae’n cael ei gario ymlaen iddi y caniateir i’r balans gael ei gymryd.
(4) Yn ystod y cyfnod o 1 Hydref hyd at 31 Mawrth mewn unrhyw flwyddyn gwyliau blynyddol caiff cyflogwr ei gwneud yn ofynnol i weithiwr amaethyddol gymryd hyd at 2 wythnos o’i hawl gwyliau blynyddol o dan y Gorchymyn hwn a chaiff gyfarwyddo i’r gweithiwr gymryd un o’r ddwy wythnos hynny o wyliau blynyddol ar ddiwrnodau yn yr un wythnos.
(5) Yn ystod y cyfnod o 1 Ebrill hyd at 30 Medi mewn unrhyw flwyddyn gwyliau blynyddol, rhaid i gyflogwr ganiatáu i weithiwr amaethyddol gymryd dwy wythnos o hawl gwyliau blynyddol y gweithiwr o dan y Gorchymyn hwn mewn wythnosau olynol.
(6) At ddibenion yr erthygl hon, mae 1 wythnos o wyliau blynyddol gweithiwr amaethyddol yn cyfateb i nifer y diwrnodau a weithiwyd bob wythnos gan y gweithiwr amaethyddol fel y’i cyfrifir yn unol ag erthygl 32.
Tâl gwyliau
34.—(1)(1) Mae gan weithiwr amaethyddol hawl i gael ei dalu o ran
pob diwrnod o wyliau blynyddol y mae’n ei gymryd.
(2) Mae swm y tâl gwyliau y mae gan weithiwr amaethyddol hawl i’w gael o dan baragraff (1) i’w bennu drwy rannu cyflog wythnosol y gweithiwr amaethyddol fel y’i pennir yn unol â pharagraff (3) neu, yn ôl fel y digwydd, paragraff (4), â nifer y diwrnodau cymwys a weithiwyd bob wythnos gan y gweithiwr amaethyddol hwnnw.
(3) Pan nad yw tâl gros y gweithiwr amaethyddol bob wythnos (heb gynnwys unrhyw dâl sydd i’w briodoli i oramser) yn amrywio, swm cyflog wythnosol y gweithiwr amaethyddol at ddibenion paragraff (2) yw’r swm sy’n daladwy gan y cyflogwr o dan naill ai contract gwasanaeth y gweithiwr amaethyddol neu ei brentisiaeth.
(4) Pan fo tâl gros y gweithiwr amaethyddol (heb gynnwys unrhyw dâl sydd i’w briodoli i oramser) yn amrywio o wythnos i wythnos, swm cyflog wythnosol y gweithiwr amaethyddol at ddibenion paragraff (2), yn ddarostyngedig i baragraff (5), yw cyflog wythnosol cyfartalog y gweithiwr amaethyddol mewn cyfnod o 12 wythnos a gyfrifir—
(a) drwy adio swm tâl gros y gweithiwr amaethyddol (heb gynnwys unrhyw dâl sydd i’w briodoli i oramser) ym mhob un o’r 12 wythnos yn union cyn i wyliau blynyddol y gweithiwr gychwyn; a
(b) drwy rannu cyfanswm y tâl gros a gyfrifwyd o dan is-baragraff (a) â 12.
(5) Pan fo gweithiwr amaethyddol wedi ei gyflogi gan ei gyflogwr am lai na 12 wythnos, rhaid ystyried wythnosau pan oedd tâl yn ddyledus i’r gweithiwr amaethyddol yn unig.
(6) At ddibenion y cyfrifiad ym mharagraff (2), mae nifer y diwrnodau a weithiwyd yn cael ei bennu yn unol â’r darpariaethau yn erthygl 31 o’r Gorchymyn hwn.
(7) Rhaid i unrhyw dâl sy’n ddyledus i weithiwr amaethyddol o dan yr erthygl hon gael ei dalu heb fod yn hwyrach na diwrnod gwaith olaf y gweithiwr amaethyddol cyn i’r cyfnod o wyliau blynyddol y mae’r taliad yn ymwneud ag ef gychwyn.
Gwyliau cyhoeddus a gwyliau banc
35.—(1)(1) Mae’r erthygl hon yn gymwys pan fo gŵyl
gyhoeddus neu ŵyl banc yng Nghymru’n syrthio ar ddiwrnod
pan fo’n ofynnol fel rheol i weithiwr amaethyddol weithio o
dan naill ai ei gontract gwasanaeth neu ei brentisiaeth.
(2) Mae gan weithiwr amaethyddol y mae ei gyflogwr yn ei gwneud yn ofynnol iddo weithio ar yr ŵyl gyhoeddus neu’r ŵyl banc hawl i gael tâl nad yw’n llai na’r gyfradd goramser a bennir yn erthygl 14.
(3) Mae balans y gwyliau blynyddol sydd wedi eu cronni ar gyfer y flwyddyn gwyliau honno o dan y Gorchymyn hwn gan weithiwr amaethyddol nad yw ei gyflogwr yn ei gwneud yn ofynnol iddo weithio ar yr ŵyl gyhoeddus neu’r ŵyl banc i gael ei leihau o 1 diwrnod o ran yr ŵyl gyhoeddus neu’r ŵyl banc nad yw’n ofynnol i’r gweithiwr amaethyddol weithio arni.
Taliad yn lle gwyliau blynyddol
36.—(1)(1) Yn ddarostyngedig i’r amodau ym mharagraff (2),
caiff gweithiwr amaethyddol a’i gyflogwr gytuno bod y
gweithiwr amaethyddol i gael taliad yn lle diwrnod o hawl gwyliau
blynyddol y gweithiwr amaethyddol.
(2) Yr amodau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) yw—
(a) mae uchafswm nifer y diwrnodau y caiff gweithiwr amaethyddol gael taliad yn lle gwyliau blynyddol ar eu cyfer yn ystod unrhyw flwyddyn gwyliau blynyddol wedi ei ragnodi yn y Tabl yn Atodlen 6;
(b) mae cofnod ysgrifenedig i’w gadw gan y cyflogwr ynglŷn ag unrhyw gytundeb y caiff gweithiwr amaethyddol daliad yn lle diwrnod o wyliau blynyddol am o leiaf 3 blynedd gan ddechrau ar ddiwedd y flwyddyn gwyliau honno;
(c) o dan amgylchiadau lle nad yw’r gweithiwr amaethyddol yn gweithio ar ddiwrnod fel y cytunir yn unol â pharagraff (1), mae’r diwrnod hwnnw i barhau’n rhan o hawl gwyliau blynyddol y gweithiwr amaethyddol;
(d) mae taliad yn lle gwyliau blynyddol i’w dalu ar gyfradd sy’n cynnwys y gyfradd goramser a bennir yn erthygl 14 yn ogystal â thâl gwyliau a gyfrifir yn unol ag erthygl 34 fel pe bai’r diwrnod y gwneir taliad yn lle gwyliau blynyddol yn ddiwrnod y mae’r gweithiwr amaethyddol yn cymryd gwyliau blynyddol.
Talu tâl gwyliau wrth derfynu cyflogaeth
37.—(1)(1) Pan derfynir cyflogaeth gweithiwr amaethyddol ac nad
yw’r gweithiwr amaethyddol wedi cymryd yr holl hawl gwyliau
blynyddol sydd wedi cronni iddo ar ddyddiad terfynu’r
gyflogaeth, mae gan y gweithiwr amaethyddol hawl yn unol â
pharagraff (2) i gael taliad yn lle’r gwyliau blynyddol a
gronnwyd ond nas cymerwyd.
(2) Mae swm y taliad sydd i’w dalu i’r gweithiwr amaethyddol yn lle pob diwrnod o’i wyliau blynyddol a gronnwyd ond nas cymerwyd ar ddyddiad terfynu’r gyflogaeth i’w gyfrifo yn unol ag erthygl 32 fel pe bai dyddiad terfynu’r gyflogaeth yn ddiwrnod cyntaf cyfnod o wyliau blynyddol y gweithiwr amaethyddol.
Adennill tâl gwyliau
38.—(1)(1) Os terfynir cyflogaeth gweithiwr amaethyddol cyn diwedd
y flwyddyn gwyliau blynyddol a bod y gweithiwr amaethyddol wedi
cymryd mwy o wyliau blynyddol nag yr oedd ganddo hawl i’w
cael o dan ddarpariaethau’r Gorchymyn hwn neu fel arall, mae
gan ei gyflogwr hawl i adennill swm y tâl gwyliau a dalwyd
i’r gweithiwr amaethyddol o ran gwyliau blynyddol a gymerwyd
uwchlaw ei hawl.
(2) Pan fo gan gyflogwr hawl o dan baragraff (1) i adennill tâl gwyliau oddi ar weithiwr amaethyddol, caiff y cyflogwr wneud hynny drwy ei dynnu oddi ar daliad cyflog olaf y gweithiwr amaethyddol.
Absenoldeb oherwydd profedigaeth
39.—(1)(1) Mae gan weithiwr amaethyddol hawl i gael absenoldeb
oherwydd profedigaeth â thâl o dan amgylchiadau lle
mae’r brofedigaeth yn ymwneud â pherson yng Nghategori A
neu Gategori B.
(2) At ddibenion paragraff (1), personau yng Nghategori A yw—
(a) rhiant i’r gweithiwr amaethyddol;
(b) mab neu ferch i’r gweithiwr amaethyddol;
(c) priod neu bartner sifil y gweithiwr amaethyddol; neu
(d) rhywun y mae’r gweithiwr amaethyddol yn byw gydag ef fel gŵr a gwraig heb fod yn gyfreithiol briod neu rywun y mae’r gweithiwr amaethyddol yn byw gydag ef fel pe baent mewn partneriaeth sifil.
(3) At ddibenion paragraff (1), personau yng Nghategori B yw—
(a) brawd neu chwaer i’r gweithiwr amaethyddol;
(b) nain neu daid i’r gweithiwr amaethyddol; neu
(c) ŵyr neu wyres i’r gweithiwr amaethyddol.
(4) At ddibenion paragraff (1) mae absenoldeb oherwydd profedigaeth yn ychwanegol at unrhyw hawliau eraill i gael absenoldeb o dan y Gorchymyn hwn.
Pennu swm absenoldeb oherwydd profedigaeth
40.—(1)(1) Swm yr absenoldeb oherwydd profedigaeth y mae gan weithiwr
amaethyddol hawl i’w gael yn sgil marwolaeth person yng
Nghategori A yw—
(a) 4 diwrnod pan fo’r gweithiwr amaethyddol yn gweithio’i oriau sylfaenol ar 5 niwrnod neu fwy bob wythnos i’r un cyflogwr; neu
(b) pan fo’r gweithiwr amaethyddol yn gweithio’i oriau sylfaenol ar 4 diwrnod yr wythnos neu lai i’r un cyflogwr, nifer y diwrnodau a gyfrifir yn unol â pharagraff (2).
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (6), mae swm hawl gweithiwr amaethyddol i gael absenoldeb oherwydd profedigaeth yn sgil marwolaeth person yng Nghategori A i’w gyfrifo yn ôl y fformwla a ganlyn—
DWEW x 4
5
(3) Swm yr absenoldeb oherwydd profedigaeth y mae gan weithiwr amaethyddol hawl i’w gael yn sgil marwolaeth person yng Nghategori B yw—
(a) 2 ddiwrnod pan fo’r gweithiwr amaethyddol yn gweithio’i oriau sylfaenol ar 5 niwrnod neu fwy bob wythnos i’r un cyflogwr; neu
(b) pan fo’r gweithiwr amaethyddol yn gweithio’i oriau sylfaenol ar 4 diwrnod yr wythnos neu lai i’r un cyflogwr, nifer y diwrnodau a gyfrifir yn unol â pharagraff (4).
(4) Yn ddarostyngedig i baragraff (6), pan fo’r erthygl hon yn gymwys mae swm hawl gweithiwr amaethyddol i gael absenoldeb oherwydd profedigaeth yn sgil marwolaeth person yng Nghategori B i’w gyfrifo yn ôl y fformwla a ganlyn—
DWEW x 2
5
(5) At ddibenion y fformwla ym mharagraffau (2) a (4), DWEW yw nifer y diwrnodau a weithiwyd bob wythnos gan y gweithiwr amaethyddol wedi ei gyfrifo yn unol ag erthygl 31.
(6) Pan fo’r cyfrifiad ym mharagraff (2) neu (4) yn arwain at hawl i gael absenoldeb oherwydd profedigaeth o lai nag 1 diwrnod, mae’r hawl i’w thalgrynnu i fyny i un diwrnod cyfan.
(7) Mewn amgylchiadau pan fo mwy nag un gyflogaeth gan weithiwr amaethyddol (boed gyda’r un cyflogwr neu gyda chyflogwyr gwahanol), caniateir cymryd absenoldeb oherwydd profedigaeth â thâl mewn perthynas â mwy nag un gyflogaeth ond ni chaiff, mewn perthynas ag unrhyw un brofedigaeth, fod yn fwy nag uchafswm yr absenoldeb oherwydd profedigaeth a bennir ar gyfer un gyflogaeth yn yr erthygl hon.
Swm tâl absenoldeb oherwydd profedigaeth
41. Mae swm y tâl ar gyfer absenoldeb oherwydd profedigaeth i’w bennu yn unol â’r darpariaethau yn erthygl 34 fel pe bai diwrnod cyntaf absenoldeb y gweithiwr amaethyddol oherwydd profedigaeth yn ddiwrnod cyntaf gwyliau blynyddol y gweithiwr hwnnw.
Absenoldeb di-dâl
42. Caiff gweithiwr amaethyddol gymryd cyfnod o absenoldeb di-dâl, gyda chydsyniad ei gyflogwr.
RHAN 6 – Darpariaeth drosiannol ac arbed
Darpariaeth drosiannol ac arbed
43.—(1)(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae gweithiwr
amaethyddol a gyflogir fel gweithiwr ar Radd neu mewn categori, ac
sy’n ddarostyngedig i’r telerau ac amodau a ragnodwyd
yng Ngorchymyn 2012([12]) neu unrhyw Orchymyn
blaenorol, yn parhau i fod wedi ei gyflogi ar y Radd honno neu yn y
categori hwnnw ac mae, o’r dyddiad y daw’r Gorchymyn
hwn i rym, yn ddarostyngedig i’r telerau ac amodau a ragnodir
yn y Gorchymyn hwn.
(2) Yn ddarostyngedig i adran 12(3) o Ddeddf Sector Amaethyddol (Cymru) 2014([13]), mae darpariaethau Gorchymyn 2012 ac unrhyw Orchymyn blaenorol i’w trin fel pe baent yn parhau mewn grym at ddibenion parhau dilysrwydd unrhyw beth a wnaed (neu’n cael effaith fel pe bai wedi ei wneud) o dan unrhyw Orchymyn o’r fath ac at ddibenion gorfodi unrhyw hawliau neu rwymedigaethau a gafwyd neu a dynnwyd o dan unrhyw Orchymyn o’r fath.
(3) Yn yr erthygl hon—
ystyr
“Gorchymyn 2012” (“the 2012 Order”)
yw Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru a Lloegr) 2012; ac
ystyr “Gorchymyn blaenorol” (“previous
Order”) yw gorchymyn a ddirymwyd gan erthygl 70 yng
Ngorchymyn 2012.
Rebecca Evans
Y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd, o dan awdurdod y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, un o Weinidogion Cymru
3 Chwefror 2016
ATODLEN 1 Erthyglau 5 a 7
DYFARNIADAU A THYSTYSGRIFAU CYMHWYSEDD GWEITHWYR GRADD 2
Tablau:
Cod y Dyfarniad |
Sefydliad Dyfarnu |
Lefel |
Teitl |
600/7421/8 |
ABC |
Lefel 1 |
Dyfarniad Lefel 1 mewn Sgiliau Cefn Gwlad Ymarferol |
600/7388/3 |
ABC |
Lefel 1 |
Dyfarniad Lefel 1 mewn Sgiliau Garddwriaeth Ymarferol |
600/7423/1 |
ABC |
Lefel 1 |
Tystysgrif Lefel 1 mewn Sgiliau Cefn Gwlad Ymarferol |
600/7389/5 |
ABC |
Lefel 1 |
Tystysgrif Lefel 1 mewn Sgiliau Garddwriaeth Ymarferol |
600/7424/3 |
ABC |
Lefel 1 |
Diploma Lefel 1 mewn Sgiliau Cefn Gwlad Ymarferol |
500/9700/3 |
ABC |
Lefel 1 |
Dyfarniad Lefel 1 mewn Sgiliau Cefn Gwlad Ymarferol |
500/9854/8 |
ABC |
Lefel 1 |
Dyfarniad Lefel 1 mewn Sgiliau Garddwriaeth Ymarferol |
500/6256/6 |
City and Guilds |
Lefel 1 |
Dyfarniad Lefel 1 yn Astudiaethau’r Tir |
500/6713/8 |
City and Guilds |
Lefel 1 |
Dyfarniad Lefel 1 mewn Amaethyddiaeth Seiliedig ar Waith |
500/6708/4 |
City and Guilds |
Lefel 1 |
Dyfarniad Lefel 1 mewn Garddwriaeth Seiliedig ar Waith |
500/6712/6 |
City and Guilds |
Lefel 1 |
Dyfarniad Lefel 1 mewn Gweithrediadau ar y Tir Seiliedig ar Waith |
500/6257/8 |
City and Guilds |
Lefel 1 |
Tystysgrif Lefel 1 yn Astudiaethau’r Tir |
500/6752/7 |
City and Guilds |
Lefel 1 |
Tystysgrif Lefel 1 mewn Amaethyddiaeth Seiliedig ar Waith |
500/6659/6 |
City and Guilds |
Lefel 1 |
Tystysgrif Lefel 1 mewn Garddwriaeth Seiliedig ar Waith |
500/6660/2 |
City and Guilds |
Lefel 1 |
Tystysgrif Lefel 1 mewn Gweithrediadau ar y Tir Seiliedig ar Waith |
500/6268/2 |
City and Guilds |
Lefel 1 |
Diploma Lefel 1 yn Astudiaethau’r Tir |
500/6761/8 |
City and Guilds |
Lefel 1 |
Diploma Lefel 1 mewn Amaethyddiaeth Seiliedig ar Waith |
500/6709/6 |
City and Guilds |
Lefel 1 |
Diploma Lefel 1 mewn Garddwriaeth Seiliedig ar Waith |
500/6711/4 |
City and Guilds |
Lefel 1 |
Diploma Lefel 1 mewn Gweithrediadau ar y Tir Seiliedig ar Waith |
600/5587/X |
City and Guilds |
Lefel 1 |
Dyfarniad Lefel 1 mewn Sgiliau Garddwriaeth Ymarferol |
600/5611/3 |
City and Guilds |
Lefel 1 |
Tystysgrif Lefel 1 mewn Sgiliau Garddwriaeth Ymarferol |
600/5612/5 |
City and Guilds |
Lefel 1 |
Diploma Lefel 1 mewn Sgiliau Garddwriaeth Ymarferol |
600/5891/2 |
NOCN |
Lefel 1 |
Dyfarniad Lefel 1 mewn Garddwriaeth |
600/5891/2 |
NOCN |
Lefel 1 |
Tystysgrif Lefel 1 mewn Garddwriaeth |
500/9128/1 |
RHS |
Lefel 1 |
Dyfarniad Lefel 1 mewn Garddwriaeth Ymarferol |
601/0613/X |
RHS |
Lefel 1 |
Dyfarniad Rhagarweiniol Lefel 1 mewn Garddwriaeth Ymarferol |
500/9635/7 |
ABC |
Lefel 2 |
Dyfarniad Lefel 2 mewn Sgiliau Garddwriaeth Ymarferol |
501/1411/6 |
ABC |
Lefel 2 |
Tystysgrif Lefel 2 mewn Coedyddiaeth |
500/9633/3 |
ABC |
Lefel 2 |
Tystysgrif Lefel 2 mewn Sgiliau Garddwriaeth Ymarferol |
500/7689/9 |
City and Guilds |
Lefel 2 |
Dyfarniad Lefel 2 mewn Gweithio’n Ddiogel mewn Amaethyddiaeth a Garddwriaeth Gynhyrchu |
500/6938/X |
City and Guilds |
Lefel 2 |
Dyfarniad Lefel 2 mewn Amaethyddiaeth Seiliedig ar Waith |
500/6871/9 |
City and Guilds |
Lefel 2 |
Dyfarniad Lefel 2 mewn Garddwriaeth Seiliedig ar Waith |
500/8584/0 |
City and Guilds |
Lefel 2 |
Tystysgrif Lefel 2 mewn Amaethyddiaeth |
500/8552/9 |
City and Guilds |
Lefel 2 |
Tystysgrif Lefel 2 mewn Coedwigaeth a Choedyddiaeth |
500/8577/3 |
City and Guilds |
Lefel 2 |
Tystysgrif Lefel 2 mewn Garddwriaeth |
500/6939/1 |
City and Guilds |
Lefel 2 |
Tystysgrif Lefel 2 mewn Amaethyddiaeth Seiliedig ar Waith |
500/6816/7 |
City and Guilds |
Lefel 2 |
Tystysgrif Lefel 2 mewn Garddwriaeth Seiliedig ar Waith |
500/8590/6 |
City and Guilds |
Lefel 2 |
Tystysgrif Estynedig Lefel 2 mewn Amaethyddiaeth |
500/8587/6 |
City and Guilds |
Lefel 2 |
Tystysgrif Estynedig Lefel 2 mewn Coedwigaeth a Choedyddiaeth |
500/8582/7 |
City and Guilds |
Lefel 2 |
Tystysgrif Estynedig Lefel 2 mewn Garddwriaeth |
600/4671/5 |
City and Guilds |
Lefel 2 |
Dyfarniad Lefel 2 mewn Gyrru Tractor Amaethyddol a Gweithrediadau Perthynol |
600/4883/9 |
City and Guilds |
Lefel 2 |
Dyfarniad Lefel 2 mewn Gyrru Tractor Cryno a Gweithrediadau Perthynol |
600/4957/1 |
City and Guilds |
Lefel 2 |
Dyfarniad Lefel 2 mewn Trin Cerbydau Pob Tir i’w Reidio ag Un Goes Bob Ochr |
600/4689/2 |
City and Guilds |
Lefel 2 |
Dyfarniad Lefel 2 yn y Defnydd Diogel o Beiriannau Torri Gwair a Reolir gan bobl ar Droed |
600/4690/9 |
City and Guilds |
Lefel 2 |
Dyfarniad Lefel 2 yn y Defnydd Diogel o Beiriannau Torri Gwair Hunanyredig i’w Reidio |
600/4670/3 |
City and Guilds |
Lefel 2 |
Dyfarniad Lefel 2 yn y Defnydd Diogel o Beiriannau Torri Gwair a Osodir ar Dractor |
500/7693/0 |
City and Guilds NPTC |
Lefel 2 |
Dyfarniad Lefel 2 mewn Cynnal a Chadw Peiriannau Amaethyddiaeth |
500/7697/8 |
City and Guilds NPTC |
Lefel 2 |
Dyfarniad Lefel 2 mewn Hwsmonaeth a Lles Sylfaenol |
600/6303/8 |
City and Guilds NPTC |
Lefel 2 |
Dyfarniad Lefel 2 mewn Tynnu Canghennau a Chwalu Corunau gan Ddefnyddio Llif Gadwyn |
600/6160/1 |
City and Guilds NPTC |
Lefel 2 |
Dyfarniad Lefel 2 mewn Cynnal a Chadw Llif Gadwyn |
600/6161/3 |
City and Guilds NPTC |
Lefel 2 |
Dyfarniad Lefel 2 mewn Cynnal a Chadw Llif Gadwyn a Thrawslifio |
600/6428/6 |
City and Guilds NPTC |
Lefel 2 |
Dyfarniad Lefel 2 mewn Trawslifio Coed gan Ddefnyddio Llif Gadwyn |
600/6162/5 |
City and Guilds NPTC |
Lefel 2 |
Dyfarniad Lefel 2 mewn Cwympo a Phrosesu Coed hyd at 380mm |
600/6619/2 |
City and Guilds NPTC |
Lefel 2 |
Dyfarniad Lefel 2 mewn Defnyddio Llif Gadwyn ar y Tir |
500/7889/6 |
City and Guilds NPTC |
Lefel 2 |
Dyfarniad Lefel 2 mewn Gyrru oddi ar y Ffordd |
600/6417/1 |
City and Guilds NPTC |
Lefel 2 |
Dyfarniad Lefel 2 yn y Defnydd Diogel o Dociwr Polyn â Modur |
600/6435/3 |
City and Guilds NPTC |
Lefel 2 |
Dyfarniad Lefel 2 mewn Cynorthwyo Cydweithwyr heb fod â’u Traed ar y Ddaear sy’n Gwneud Gwaith mewn perthynas â Choed |
600/6435/3 |
City and Guilds NPTC |
Lefel 2 |
Dyfarniad Lefel 2 mewn Cludo Anifeiliaid dros Bellter Hir ar y Ffordd – Cynorthwyydd |
600/0307/8 |
City and Guilds NPTC |
Lefel 2 |
Dyfarniad Lefel 2 in Cludo Anifeiliaid dros Bellter Hir ar y Ffordd – Gyrrwr |
500/7103/8 |
City and Guilds NPTC |
Lefel 2 |
Dyfarniad Lefel 2 yn y Defnydd Diogel o Blaleiddiaid |
500/7692/9 |
City and Guilds NPTC |
Lefel 2 |
Dyfarniad Lefel 2 yn y Defnydd Diogel o Ddip Defaid |
500/6793/X |
City and Guilds NPTC |
Lefel 2 |
Dyfarniad Lefel 2 yn y Defnydd Diogel o Feddyginiaethau Milfeddygol |
600/0306/6 |
City and Guilds NPTC |
Lefel 2 |
Dyfarniad Lefel 2 mewn Cludo Anifeiliaid ar y Ffordd (Siwrneiau Byr) |
600/6620/9 |
City and Guilds NPTC |
Lefel 2 |
Dyfarniad Lefel 2 mewn Dringo Coed ac Achub |
100/2000/7 |
City and Guilds NPTC |
Lefel 2 |
Tystysgrif Cymhwysedd Lefel 2 yn y Defnydd Diogel o Lorri Ddadlwytho |
/2001/9 |
City and Guilds NPTC |
Lefel 2 |
Tystysgrif Cymhwysedd Lefel 2 yn y Defnydd Diogel o Beiriannau Olwyn Garw |
100/2103/5 |
City and Guilds NPTC |
Lefel 2 |
Tystysgrif Cymhwysedd Lefel 2 yn y Defnydd Diogel o Beiriannau Offer |
100/1733/1 |
City and Guilds NPTC |
Lefel 2 |
Tystysgrif Cymhwysedd Lefel 2 yn y Defnydd Diogel o Gyfarpar Cynnal Glaswellt |
100/1743/3 |
City and Guilds NPTC |
Lefel 2 |
Tystysgrif Cymhwysedd Lefel 2 mewn Rheoli Plâu Fertebraidd |
600/6453/5 |
IMIAL |
Lefel 2 |
Tystysgrif Lefel 2 mewn Technoleg sy’n ymwneud â’r Tir |
600/6774/3 |
IMIAL |
Lefel 2 |
Tystysgrif Estynedig Lefel 2 mewn Technoleg sy’n ymwneud â’r Tir |
501/1740/3 |
Lantra Awards |
Lefel 2 |
Dyfarniad Lefel 2 mewn Cludo Anifeiliaid ar y Ffordd – Cynorthwyydd Siwrnai Hir |
501/1739/7 |
Lantra Awards |
Lefel 2 |
Dyfarniad Lefel 2 mewn Cludo Anifeiliaid ar y Ffordd – Gyrrwr Siwrnai Hir |
501/1738/5 |
Lantra Awards |
Lefel 2 |
Dyfarniad Lefel 2 mewn Cludo Anifeiliaid ar y Ffordd – Siwrnai Fer |
600/5699/X |
Lantra Awards |
Lefel 2 |
Dyfarniad Lefel 2 mewn Cynnal a Chadw Llif Gadwyn |
600/5701/4 |
Lantra Awards |
Lefel 2 |
Dyfarniad Lefel 2 mewn Cynnal a Chadw Llif Gadwyn a Thrawslifio |
600/5700/2 |
Lantra Awards |
Lefel 2 |
Dyfarniad Lefel 2 mewn Trawslifio Coed gan Ddefnyddio Llif Gadwyn |
600/5703/8 |
Lantra Awards |
Lefel 2 |
Dyfarniad Lefel 2 mewn Cwympo a Phrosesu Coed hyd at 380mm |
600/5717/8 |
Lantra Awards |
Lefel 2 |
Dyfarniad Lefel 2 mewn Tynnu Canghennau a Malu Corunau gan Ddefnyddio Llif Gadwyn (QCF) |
500/7449/0 |
Lantra Awards |
Lefel 2 |
Dyfarniad Lefel 2 mewn Gweithio’n Ddiogel mewn Amaethyddiaeth a Garddwriaeth Gynhyrchu |
600/5709/9 |
Lantra Awards |
Lefel 2 |
Dyfarniad Lefel 2 mewn Cynorthwyo Cydweithwyr heb fod â’u Traed ar y Ddaear sy’n Gwneud Gwaith mewn perthynas â Choed |
600/8391/8 |
Lantra Awards |
Lefel 2 |
Dyfarniad Lefel 2 yn y Defnydd Diogel o Alwminiwm Ffosffid ar gyfer Plâu Fertebraidd |
600/5708/7 |
Lantra Awards |
Lefel 2 |
Dyfarniad Lefel 2 mewn Defnyddio Tociwr Polyn â Modur |
600/6729/9 |
Lantra Awards |
Lefel 2 |
Tystysgrif Lefel 2 mewn Gweithgareddau ar y Tir |
500/9933/4 |
Pearson BTEC |
Lefel 2 |
Tystysgrif Lefel 2 mewn Amaethyddiaeth |
500/9932/2 |
Pearson BTEC |
Lefel 2 |
Tystysgrif Estynedig Lefel 2 mewn Amaethyddiaeth |
501/0122/5 |
Pearson BTEC |
Lefel 2 |
Tystysgrif Estynedig Lefel 2 mewn Garddwriaeth |
600/4507/3 |
Pearson Edexcel |
Lefel 2 |
Tystysgrif Lefel 2 mewn Garddwriaeth Seiliedig ar Waith |
501/0207/2 |
RHS |
Lefel 2 |
Tystysgrif Lefel 2 mewn Garddwriaeth Ymarferol |
500/8295/4 |
RHS |
Lefel 2 |
Tystysgrif Lefel 2 mewn Egwyddorion Cynllunio, Sefydlu a Chadw Gardd |
501/0208/4 |
RHS |
Lefel 2 |
Diploma Lefel 2 mewn Egwyddorion ac Arferion Garddwriaeth |
Cymhwysedd (Rhifau) |
Teitl |
CU 5.2 (T5021690) |
Sefydlu a chynnal perthynas waith effeithiol ag eraill (Lefel 2) |
CU 9.2. (J5021449) |
Cynllunio a chynnal cyflenwadau adnoddau ffisegol yn y lle gweithio (Lefel 3) |
ATODLEN 2 Erthygl 6
DYFARNIADAU A THYSTYSGRIFAU CYMHWYSEDD GWEITHWYR GRADD 3
Tablau
|
Cod y Dyfarniad |
Sefydliad Dyfarnu |
Lefel |
Teitl |
|
|
500/8575/X |
City and Guilds |
Lefel 2 |
Diploma mewn Amaethyddiaeth |
|
|
500/8718/6 |
City and Guilds |
Lefel 2 |
Diploma mewn Coedwigaeth a Choedyddiaeth |
|
|
500/8576/1 |
City and Guilds |
Lefel 2 |
Diploma mewn Garddwriaeth |
|
|
500/6231/1 |
City and Guilds |
Lefel 2 |
Diploma mewn Amaethyddiaeth Seiliedig ar Waith |
|
|
500/6205/0 |
City and Guilds |
Lefel 2 |
Diploma mewn Garddwriaeth Seiliedig ar Waith |
|
|
501/0302/7 |
City and Guilds |
Lefel 2 |
Diploma mewn Gweithrediadau Peirianneg sy’n ymwneud â’r Tir Seiliedig ar Waith |
|
|
600/7616/1 |
City and Guilds |
Lefel 2 |
Diploma mewn Coed a Phren |
|
|
600/6775/5 |
IMIAL |
Lefel 2 |
Diploma mewn Technoleg sy’n ymwneud â’r Tir |
|
|
601/0608/6 |
IMIAL |
Lefel 2 |
Diploma mewn Cyfarpar â Modur ar gyfer Gweithrediadau Peirianneg sy’n ymwneud â’r Tir Seiliedig ar Waith |
|
|
600/5109/7 |
IMIAL |
Lefel 2 |
Diploma mewn Gweithrediadau Peirianneg sy’n ymwneud â’r Tir Seiliedig ar Waith |
|
|
500/9547/X |
Person BTEC |
Lefel 2 |
Diploma mewn Amaethyddiaeth |
|
|
500/9934/6 |
Pearson BTEC |
Lefel 2 |
Diploma mewn Garddwriaeth |
|
|
600/3577/8 |
Pearson Edexcel |
Lefel 2 |
Diploma mewn Gweithrediadau Peirianneg sy’n ymwneud â’r Tir Seiliedig ar Waith |
|
|
501/0208/4 |
RHS |
Lefel 2 |
Diploma mewn Egwyddorion ac Arferion Garddwriaeth |
|
Cymhwysedd (Rhifau) |
Teitl |
||||
CU 5.2 (T5021690) |
Sefydlu a chynnal perthynas waith effeithiol ag eraill (Lefel 2) |
||||
CU 9.2. (J5021449) |
Cynllunio a chynnal cyflenwadau adnoddau ffisegol yn y lle gweithio (Lefel 3) |
||||
ATODLEN 3 Erthygl 7
DYFARNIADAU A THYSTYSGRIFAU CYMHWYSEDD GWEITHWYR GRADD 4
Tablau
Cod y Dyfarniad |
Sefydliad dyfarnu |
Lefel |
Teitl |
500/8487/2 |
City & Guilds |
Lefel 3 |
Diploma mewn Amaethyddiaeth |
500/8564/5 |
City & Guilds |
Lefel 3 |
Diploma mewn Coedwigaeth a Choedyddiaeth |
500/8384/3 |
City & Guilds |
Lefel 3 |
Diploma mewn Garddwriaeth |
500/6224/4 |
City & Guilds |
Lefel 3 |
Diploma mewn Amaethyddiaeth Seiliedig ar Waith |
500/6255/4 |
City & Guilds |
Lefel 3 |
Diploma mewn Garddwriaeth Seiliedig ar Waith |
501/0399/4 |
City & Guilds |
Lefel 3 |
Diploma mewn Gweithrediadau Peirianneg sy’n ymwneud â’r Tir Seiliedig ar Waith |
500/8490/2 |
City & Guilds |
Lefel 3 |
Diploma Estynedig mewn Amaethyddiaeth |
500/8720/4 |
City & Guilds |
Lefel 3 |
Diploma Estynedig mewn Coedwigaeth a Choedyddiaeth |
500/8401/X |
City & Guilds |
Lefel 3 |
Diploma Estynedig mewn Garddwriaeth |
500/8388/0 |
City & Guilds |
Lefel 3 |
Diploma Atodol mewn Amaethyddiaeth |
500/8724/1 |
City & Guilds |
Lefel 3 |
Diploma Atodol mewn Coedwigaeth a Choedyddiaeth |
500/8385/5 |
City & Guilds |
Lefel 3 |
Diploma Atodol mewn Garddwriaeth |
600/6970/3 |
City & Guilds |
Lefel 3 |
Diploma mewn Coed a Phren Seiliedig ar Waith |
600/7794/3 |
IMIAL |
Lefel 3 |
Diploma mewn Technoleg sy’n ymwneud â’r Tir |
600/7796/7 |
IMIAL |
Lefel 3 |
Diploma Estynedig mewn Technoleg sy’n ymwneud â’r Tir |
600/7795/5 |
IMIAL |
Lefel 3 |
Diploma Atodol mewn Technoleg sy’n ymwneud â’r Tir |
600/5128/0 |
IMIAL |
Lefel 3 |
Diploma mewn Peirianneg sy’n ymwneud â’r Tir Seiliedig ar Waith |
500/8240/1 |
Pearson BTEC |
Lefel 3 |
Diploma mewn Amaethyddiaeth |
500/9449/X |
Pearson BTEC |
Lefel 3 |
Diploma mewn Coedwigaeth a Choedyddiaeth |
500/8336/3 |
Pearson BTEC |
Lefel 3 |
Diploma mewn Garddwriaeth |
500/8301/6 |
Pearson BTEC |
Lefel 3 |
Diploma Estynedig mewn Amaethyddiaeth |
500/9448/8 |
Pearson BTEC |
Lefel 3 |
Diploma Estynedig mewn Coedwigaeth a Choedyddiaeth |
500/8266/8 |
Pearson BTEC |
Lefel 3 |
Diploma Estynedig mewn Garddwriaeth |
500/8242/5 |
Pearson BTEC |
Lefel 3 |
Diploma Atodol mewn Amaethyddiaeth |
500/9451/8 |
Pearson BTEC |
Lefel 3 |
Diploma Atodol mewn Coedwigaeth a Choedyddiaeth |
500/8351/X |
Pearson BTEC |
Lefel 3 |
Diploma Atodol mewn Garddwriaeth |
600/3550/X |
Pearson Edexcel |
Lefel 3 |
Diploma mewn Peirianneg sy’n ymwneud â’r Tir Seiliedig ar Waith |
600/2788/5 |
City & Guilds |
Lefel 4 |
Tystysgrif mewn Rheolaeth Amaethyddol Seiliedig ar Waith |
600/2842/7 |
City & Guilds |
Lefel 4 |
Diploma mewn Rheoli Busnes Amaethyddol Seiliedig ar Waith |
600/2132/9 |
Pearson BTEC |
Lefel 4 |
Diploma HNC mewn Garddwriaeth |
601/5485/8 |
Agored Cymru |
Lefel 4 |
Tystysgrif mewn Garddwriaeth yn Seiliedig ar Waith |
Cymhwysedd (Rhifau) |
Teitl |
CU 5.2 (T5021690) |
Sefydlu a chynnal perthynas waith effeithiol ag eraill (Lefel 2) |
CU 9.2. (J5021449) |
Cynllunio a chynnal cyflenwadau adnoddau ffisegol yn y lle gweithio (Lefel 3) |
ATODLEN 4 Erthygl 13
CYFRADDAU TÂL ISAF
Tabl
Gradd neu gategori’r gweithiwr |
Cyfradd tâl isaf fesul awr |
Gweithiwr Gradd 1 o dan oedran ysgol gorfodol |
£3.30 |
Gweithiwr Gradd 1 dros oedran ysgol gorfodol |
£6.72 |
Gweithiwr Gradd 2 |
£7.39 |
Gweithiwr Gradd 3 |
£8.12 |
Gweithiwr Gradd 4 |
£8.72 |
Gweithiwr Gradd 5 |
£9.23 |
Gweithiwr Gradd 6 |
£9.97 |
Prentis Blwyddyn 1 |
£3.78 |
Prentis Blwyddyn 2 (16-17 oed) |
£3.90 |
Prentis Blwyddyn 2 (18-20 oed) |
£5.30 |
Prentis Blwyddyn 2 (21 oed a throsodd) |
£6.70 |
Gweithiwr hyblyg amser llawn Gradd 1 |
£7.04 |
Gweithiwr hyblyg amser llawn Gradd 2 |
£7.90 |
Gweithiwr hyblyg amser llawn Gradd 3 |
£8.69 |
Gweithiwr hyblyg amser llawn Gradd 4 |
£9.31 |
Gweithiwr hyblyg amser llawn Gradd 5 |
£9.87 |
Gweithiwr hyblyg amser llawn Gradd 6 |
£10.66 |
Gweithiwr hyblyg rhan-amser Gradd 1 |
£6.91 |
Gweithiwr hyblyg rhan-amser Gradd 2 |
£7.75 |
Gweithiwr hyblyg rhan-amser Gradd 3 |
£8.52 |
Gweithiwr hyblyg rhan-amser Gradd 4 |
£9.14 |
Gweithiwr hyblyg rhan-amser Gradd 5 |
£9.96 |
Gweithiwr hyblyg rhan-amser Gradd 6 |
£10.46 |
ATODLEN 5 Erthygl 32
HAWLIAU GWYLIAU BLYNYDDOL
Tabl
Nifer y diwrnodau a weithir bob wythnos gan weithiwr amaethyddol |
Mwy na 6 |
Mwy na 5 ond heb fod yn fwy na 6 |
Mwy na 4 ond heb fod yn fwy na 5 |
Mwy na 3 ond heb fod yn fwy na 4 |
Mwy na 2 ond heb fod yn fwy na 3 |
Mwy nag 1 ond heb fod yn fwy na 2 |
1 neu lai |
Hawliau gwyliau blynyddol (diwrnodau) |
38 |
35 |
31 |
25 |
20 |
13 |
7.5 |
ATODLEN 6 Erthygl 37
TALIAD YN LLE GWYLIAU BLYNYDDOL
Tabl
Uchafswm nifer y diwrnodau gwyliau blynyddol y caniateir taliad yn eu lle |
|||||||
Diwrnodau a weithir bob wythnos |
Mwy na 6 |
Mwy na 5 ond heb fod yn fwy na 6 |
Mwy na 4 ond heb fod yn fwy na 5 |
Mwy na 3 ond heb fod yn fwy na 4 |
Mwy na 2 ond heb fod yn fwy na 3 |
Mwy nag 1 ond heb fod yn fwy na 2 |
1 neu lai |
Uchafswm nifer y diwrnodau gwyliau blynyddol o dan y Gorchymyn hwn y caniateir taliad yn eu lle |
10 |
7 |
3 |
2.5 |
2.5 |
1.5 |
1.5 |
([7]) 1973 (p.50). Trosglwyddwyd swyddogaethau perthnasol yr Ysgrifennydd Gwladol, i’r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672). Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 1672 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32), a pharagraffau 30 a 32 o Atodlen 11 iddi.
([8]) 1995 (p.18). Diddymwyd adran 17B gan adran 147 o Ddeddf Diwygio Lles 2012 (2012 p.5) a Rhan 4 o Atodlen 14 iddi. Mae’r diddymiad yn effeithiol at ddibenion penodol yn unol ag O.S. 2013/983 ac O.S. 2013/1511.
([12]) Mae adran 12(1) o Ddeddf Sector Amaethyddol (Cymru) 2014 yn darparu, er gwaethaf y ddarpariaeth yn adran 72(4) o Ddeddf Menter a Diwygio Rheoleiddio 2013 (p. 24) a pharagraff 2 o Atodlen 20 iddi, ac erthygl 4 o O.S. 2013/1455, bod darpariaethau Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru a Lloegr) 2012 yn cael effaith mewn perthynas â gweithwyr amaethyddol ar 1 Hydref 2013 ac o hynny ymlaen, hyd nes bod Gweinidogion Cymru yn gwneud Gorchymyn newydd.